SL(5)411 – Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019

Cefndir a Diben

Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gwneud grantiau a benthyciadau i fyfyrwyr sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar gyfer cyrsiau gradd feistr ôl-raddedig sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2019.

Er mwyn cymhwyso i gael cymorth o dan y Rheoliadau hyn, rhaid i fyfyriwr fod yn “myfyriwr cymwys”. I fod yn fyfyriwr cymwys, rhaid i berson fodloni’r darpariaethau cymhwystra ym Mhennod 2 o Ran 4 ac unrhyw ofynion cymhwystra eraill mewn mannau eraill yn y Rheoliadau. Rhaid i fyfyriwr cymwys fodloni hefyd y gofynion penodol sy’n gymwys i bob math o gymorth ariannol.  Nid yw person yn fyfyriwr cymwys os, ymhlith pethau eraill, yw’r person hwnnw eisoes wedi ennill cymhwyster sy’n cyfateb i radd feistr neu’n uwch na gradd feistr.

Nid yw cymorth ond ar gael o dan y Rheoliadau hyn mewn cysylltiad â chyrsiau “dynodedig” o fewn ystyr rheoliadau 5 ac 8. Darperir cymorth i fyfyrwyr cymwys sy’n ymgymryd â chwrs dynodedig ble bynnag y bônt yn astudio yn y Deyrnas Unedig.

Mae'r Rheoliadau hefyd yn nodi darpariaethau ar gyfer, ymhlith pethau eraill:

·         cyfrifiadau cymorth manwl

·         trosglwyddiadau rhwng cyrsiau dynodedig

·         terfynau amser ar gyfer ceisiadau

·         casglu gwybodaeth

·         taliadau, gordaliadau ac adennill taliadau

·         carcharorion cymwys

·         gwelliannau i Reoliadau Addysg (Benthyciadau Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2017

Gweithdrefn

Negyddol.

Materion technegol: craffu

Nodwyd dau bwynt i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn:

1.    Rheol Sefydlog 21.2(i): ei bod yn ymddangos bod amheuaeth a yw intra vires;

Mae eithriad 3 yn rheoliad 10(1), a rheoliad 13(1), yn rhoi disgresiwn i Weinidogion Cymru nad yw fel arall yn ddarostyngedig i feini prawf neu gyfyngiadau penodol (ac nid ymhelaethir arno yn y Memorandwm Esboniadol).  Felly, ymddengys fod hyn yn rhoi disgresiwn sy'n golygu is-ddirprwyo o fath sy'n gofyn am bwerau galluogi penodol.

Nodir bod y pŵer galluogi[1] yn caniatáu i reoliadau wneud darpariaeth “ar gyfer penderfynu” ar gymhwystra sydd, mewn gwirionedd, yn caniatáu i Weinidogion Cymru is-ddirprwyo swyddogaeth ddewisol iddynt hwy eu hunain. Fodd bynnag, mae'r ragdybiaeth yn erbyn is-ddirprwyo yn un gref am resymau rheol y gyfraith, ac nid ymddengys ei bod wedi'i gwrthbrofi'n glir yn yr achos hwn dim ond drwy gyfeirio at ddarpariaeth “ar gyfer penderfynu” ar gymhwystra.  Er y derbynnir na ellir yn hawdd nodi rhestr gynhwysfawr o feini prawf gwrthrychol yn y ddeddfwriaeth alluogi (er y gallai rheoliadau ei diwygio o bryd i'w gilydd), mae'r Pwyllgor o'r farn bod dadl barchus, sy'n cyfiawnhau adrodd ar y pwynt hwn, y dylai'r pŵer galluogi gyfeirio at feini prawf gwrthrychol yn hytrach na darparu disgresiwn agored yn unig.

Nodir bod Gweinidogion Cymru yn ddarostyngedig i gyfyngiadau cyffredinol cyfraith gyhoeddus, neu yn wir y gellid cyhoeddi canllawiau gyda'r bwriad o leihau'r disgresiwn, ond nid yw hyn yn mynd i'r afael â'r cwestiwn sylfaenol a yw'r pŵer galluogi yn ddigon eang i roi'r disgresiwn yn y lle cyntaf.

2.    Rheol Sefydlog 21.2(v): bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol.

Yn y diffiniad o 'corff cyhoeddus' ym mharagraff 20 o Atodlen 3, cyfeirir at 'cenedlaethol, rhanbarthol neu leol'.  Mae hyn yn amwys ac yn aneglur.  Er enghraifft, nid yw'r ddarpariaeth yn ei gwneud yn glir a fwriedir i ‘genedlaethol’ gyfeirio at gyrff cyhoeddus Cymru, y DU neu gyrff cyhoeddus ehangach.

Rhinweddau: craffu

Nodir un pwynt i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn:

3.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) - ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad.

Mae rheoliad 10(1), eithriad 11 yn dweud nad yw person yn gymwys am fenthyciad ar gyfer Gradd Ddoethurol Ôl-raddedig os yw wedi cyrraedd 60 oed ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae’r cwrs yn dechrau.

Mae'r Pwyllgor yn mynegi'r pryderon hawliau dynol a chydraddoldeb a ganlyn o ran y terfyn oedran hwn.

Mae Erthygl 2 o Brotocol 1 y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol (y Confensiwn) yn cynnwys hawl gyffredinol i addysg.

Mae Erthygl 14 y Confensiwn yn darparu y bydd yr hawliau a'r rhyddfreiniau a nodir yn y Confensiwn yn cael eu sicrhau yn ddiwahân, heb wahaniaethu ar sawl sail amrywiol a ddiogelir, gan gynnwys oedran.[2]

Mae adran 13(1) o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (Deddf Cydraddoldeb) yn gwahardd gwahaniaethu uniongyrchol ar sail oedran, oni bai y gellir ei gyfiawnhau o dan adran 13(2).

Mae'r Pwyllgor yn nodi bod y ffiniau o ran disgresiwn yn ehangu'n unol â lefel yr addysg dan sylw, a bod gradd feistr ar lefel uchel yng nghyd-destun addysg. Mae'r Pwyllgor hefyd yn nodi bod y mesur wedi'i fwriadu i gyflawni nodau polisi cymdeithasol fel y'u nodir yn y Memorandwm Esboniadol, sy'n gyson â'r gyfraith achosion arweiniol sy'n ymwneud â chymhwyso Erthygl 6(1) o Gyfarwyddeb 2000/78/EC.

Mae'r Pwyllgor o'r farn bod y materion a godwyd gan reoliad 10(1), eithriad 11 yn berthnasol i'r hawl i addysg. Mae gosod terfyn oedran uchaf o 60 yn wahaniaethol. Felly, mae’n angenrheidiol edrych a oes cyfiawnhad dros y terfyn oedran uchaf. Os gellir ei gyfiawnhau, nid yw’n groes i’r Confensiwn na'r Ddeddf Cydraddoldeb. Mae'r Goruchaf Lys wedi gosod prawf pedwar cwestiwn[3]:

a)    A oes nod dilys i’r mesur a gymerir sy’n ddigonol i gyfiawnhau cyfyngiad ar hawl sylfaenol?

b)   A yw’r mesur a gymerir wedi’i gysylltu yn rhesymegol â’r nod hwnnw?

c)    A ellid defnyddio mesur llai ymwthiol?

d)   A geir cydbwysedd teg?

Mae’r Memorandwm Esboniadol yn rhoi cyfiawnhad dros osod terfyn oedran o’r fath ar y sail:

a)    Mai nod y cynllun yw cynyddu sgiliau lefel uchel ar gyfer yr economi yng nghyd-destun adnoddau cyfyngedig. Mae’r Llywodraeth yn datgan, er mwyn sicrhau gwerth am arian, fod angen cyllid cynaliadwy a bod terfyn oedran o 60 yn lliniaru’r risg y caiff benthyciadau anghymesur eu cymryd gan fyfyrwyr hŷn a fydd yn annhebygol o ad-dalu swm y benthyciad yn llawn neu wneud ad-daliadau sylweddol, ac y byddai ganddynt nifer cyfyngedig o flynyddoedd gwaith lle byddai eu sgiliau ar gael i’r economi. Mae’r Memorandwm Esboniadol yn nodi canfyddiadau dadansoddiadau y mae’r Llywodraeth wedi’u gwneud, sy’n ei harwain at y casgliad hwn.

b)   Mae angen sicrhau gwerth am arian i’r trethdalwr ac mae’r Llywodraeth o’r farn bod gosod y terfyn oedran yn gysylltiedig yn rhesymol â’r nod.

c)    Ystyriwyd y posibilrwydd o nodi mesur llai ymwthiol i gyflawni’r nod. Y casgliad oedd y byddai system a oedd yn gofyn am ymchwiliad ac asesiad unigol yn creu baich gweinyddol trwm a allai ddefnyddio adnoddau prin. Gallai system o’r fath hefyd gyflwyno cyfle i wneud penderfyniadau anghyson.

d)   Bydd swm o gyllid drwy Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) yn cael ei ddosbarthu i sefydliadau addysg uwch yng Nghymru i ddarparu bwrsariaeth na ellir ei had-dalu i fyfyrwyr cymwys, 60 oed a hŷn, sy'n astudio cyrsiau Meistr ôl-raddedig yng Nghymru sy'n dechrau yn y flwyddyn academaidd 2019/20. Yn ôl y Memorandwm Esboniadol, ar ôl hynny, nod y Llywodraeth yw darparu mynediad at elfennau grant cymorth Llywodraeth Cymru i fyfyrwyr 60 oed a throsodd.

e)    Gan ystyried ei thystiolaeth sy’n ymwneud â chyfraddau ad-dalu benthyciadau, ond hefyd y cyfraddau cyflogaeth (nid diben y benthyciad yw hwyluso nifer y myfyrwyr sy’n derbyn cyrsiau gradd doethurol nad oes ganddynt fwriad penodol i ddychwelyd i’r gweithle), mae’r Llywodraeth yn ystyried bod y cyfyngiad oed yn taro cydbwysedd teg, ac y cyfiawnheir y terfyn oedran. Fodd bynnag, oherwydd oedran ymddeol cynyddol, mae'r Llywodraeth yn ymrwymo i adolygu pob terfyn oedran sy'n cael ei roi ar israddedigion amser llawn a rhan-amser yn ogystal â chymorth i fyfyrwyr Meistr ôl-raddedig.

Rydym yn croesawu'r cyfiawnhad a nodir yn y Memorandwm Esboniadol.  Mae'r amcanion polisi a ddilynir gan y Llywodraeth yn ymddangos yn ddilys ac mae'r camau a gymerwyd gan y Rheoliadau i'w cyflawni wedi'u cysylltu'n rhesymegol â nodau o'r fath.  Mae'r Pwyllgor yn nodi'r dadansoddiad opsiynau a amlinellir yn y Memorandwm Esboniadol sy'n rhoi tystiolaeth bod ystyriaeth briodol wedi'i rhoi i osod cyfundrefn eithaf cytbwys sy’n llai ymwthiol.  Felly, mae’n ymddangos bod y Llywodraeth wedi rhoi ystyriaeth briodol a gofalus i’r cyfiawnhad o osod terfyn oedran uchaf o 60 yn y Rheoliadau hyn.

Y goblygiadau yn sgil ymadael â’r Undeb Ewropeaidd 

Mae'r gofynion cymhwystra ar gyfer cyllid myfyrwyr wedi'u drafftio i roi ystyriaeth i aelodaeth y DU o'r Undeb Ewropeaidd. Felly, bydd ambell fyfyriwr o’r UE yn gymwys i gael cymorth o dan y Rheoliadau. Nid yw wedi ei gadarnhau ar hyn o bryd pa effaith y bydd Brexit yn ei chael ar symudedd myfyrwyr, ond roedd datganiad gan Lywodraeth Cymru ar 2 Gorffennaf 2018 yn cadarnhau y bydd myfyrwyr yr UE yn parhau i fod â hawl i gymorth i fyfyrwyr yn y flwyddyn academaidd 19/20.

Ymateb y Llywodraeth

1.    Rheol Sefydlog 21.2(i): ei bod yn ymddangos bod amheuaeth a yw intra vires

Mae rheoliad 10(1) yn darparu nad yw person (P) yn fyfyriwr cymwys os yw unrhyw un neu ragor o’r eithriadau a restrir yn gymwys. Mae Eithriad 3 yn rheoliad 10(1) yn datgan: “mae Gweinidogion Cymru yn meddwl bod ymddygiad P o’r fath fel nad yw P yn addas i gael cymorth”.

Mae rheoliad 13(1) yn datgan y “caiff Gweinidogion Cymru derfynu cyfnod cymhwystra myfyriwr cymwys os ydynt wedi eu bodloni bod ymddygiad y myfyriwr o’r fath fel nad yw’r myfyriwr yn addas mwyach i gael cymorth”.

Mae Llywodraeth Cymru yn nodi bod y Pwyllgor yn datgan yn ei adroddiad fod y pŵer galluogi “yn caniatáu i reoliadau wneud darpariaeth “ar gyfer penderfynu” ar gymhwystra sydd, mewn gwirionedd, yn caniatáu i Weinidogion Cymru is-ddirprwyo swyddogaeth ddewisol iddynt hwy eu hunain” ac mae Llywodraeth Cymru yn cytuno â’r farn honno. Yna, mae adroddiad y Pwyllgor yn mynd ymlaen i ddweud: “mae’r ragdybiaeth yn erbyn is-ddirprwyo yn un gref am resymau rheol y gyfraith, ac nid ymddengys ei bod wedi’i gwrthbrofi’n glir yn yr achos hwn”[sic]. Ymddengys fod hyn yn groes i’r frawddeg flaenorol yn adroddiad y Pwyllgor ac mae Llywodraeth Cymru yn ansicr pam y mae rhaid gwrthbrofi’r rhagdybiaeth yn erbyn is-ddirprwyo pan yw’r Pwyllgor yn derbyn bod adran 22 o’r Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch yn caniatáu is-ddirprwyo swyddogaethau mewn perthynas â phenderfynu ar gymhwystra.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ansicr o ran yr hyn a olygir gan y “dylai’r pŵer galluogi gyfeirio at feini prawf gwrthrychol yn hytrach na darparu disgresiwn agored yn unig”.  Ymddengys mai sylw yw hwn ynghylch y ddeddfwriaeth sylfaenol.

Mae Llywodraeth Cymru o’r farn bod y pwerau yn adran 22 o’r Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch yn ddigon i ganiatáu i Weinidogion Cymru wneud y ddarpariaeth sydd wedi ei chynnwys yn rheoliadau 10(1) a 13(1).

Mae adran 22(1) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (y Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch) yn datgan:

“Regulations shall make provision authorising or requiring the Secretary of State to make grants or loans, for any prescribed purposes, to eligible students in connection with their undertaking –

(a) higher education courses, or

(b) further education courses,

which are designated for the purposes of this section by or under the regulations.”

Mae’r swyddogaeth hon a oedd gan yr Ysgrifennydd Gwladol wedi ei throsglwyddo i Weinidogion Cymru drwy adran 44 o Ddeddf Addysg Uwch 2004 a pharagraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

Mae is-adran (1) yn darparu pŵer eang i wneud rheoliadau mewn cysylltiad â darparu grantiau a benthyciadau ar gyfer myfyrwyr addysg uwch. Yna, mae is-adran (2) yn nodi darpariaeth fwy penodol y caniateir ei chynnwys yn y rheoliadau hynny.

Mae adran 22(2)(i), er enghraifft, yn datgan y caiff rheoliadau wneud darpariaeth “requiring prescribed amounts payable to eligible students under loans under this section to be paid directly to institutions”. Dylid nodi’r defnydd o’r term “prescribed”. Mae adran 43(1) o’r Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch yn cynnwys diffiniad o’r term sef “prescribed by regulations”. Felly, rhaid i symiau’r benthyciad sydd i’w talu yn uniongyrchol i sefydliadau gael eu nodi ar wyneb y rheoliadau.

Mewn cyferbyniad, mae adran 22(2)(a) o’r Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch (swyddogaethau a ddelir gan Weinidogion Cymru ar y cyd â’r Ysgrifennydd Gwladol) yn darparu y caiff rheoliadau wneud darpariaeth “for determining whether a person is an eligible student in relation to any grant or loan available under this section”. Yn yr achos hwn, nid y gofyniad yw bod rheoliadau yn rhagnodi a yw person yn fyfyriwr cymwys ac felly mae’r pŵer sydd wedi ei gynnwys yn adran 22(2)(a) yn ehangach na’r pŵer yn adran 22(2)(i).

Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019 yn nodi nifer o feini prawf y mae rhaid i berson eu bodloni er mwyn bod yn “myfyriwr cymwys”. Fel rhan o’r meini prawf hyn, caniateir ystyried ymddygiad person a rhoddir disgresiwn i Weinidogion Cymru yn rheoliadau 10(1) a 13(1) i wrthod neu ganslo statws person fel “myfyriwr cymwys” os yw natur ei ymddygiad yn ei wneud yn anaddas i gael cymorth i fyfyrwyr. Mae’r darpariaethau hyn gyda’i gilydd yn “penderfynu” a yw person yn fyfyriwr cymwys.

Mae Llywodraeth Cymru o’r farn bod y gair “prescribed” wedi ei ddefnyddio yn y pŵer galluogi pan oedd Senedd y Deyrnas Unedig yn bwriadu i ddarpariaeth gael ei gwneud ar wyneb y rheoliadau yn unig, gan ei fod mewn sawl lle yn adran 22(2). Nid yw adran 22(2)(a) yn defnyddio’r term hwn ac felly y bwriad clir yw iddo fod yn bŵer ehangach a fyddai’n caniatáu i’r rheoliadau wneud darpariaeth ar gyfer penderfynu a yw person yn fyfyriwr cymwys sy’n cynnwys pŵer disgresiynol Gweinidogion Cymru a nodir yn rheoliadau 10(1) a 13(1). 

Mae rhannau eraill o adran 22(2) sy’n darparu’n benodol i Weinidogion Cymru benderfynu ar fater “under the regulations”. Er enghraifft, mae adran 22(2)(e) yn datgan y caiff rheoliadau wneud darpariaeth “for any grant under this section to be made available on such terms and conditions as may be prescribed by, or determined by the [Welsh Ministers] under, the regulations”. Mae angen y pŵer penodol i is-ddirprwyo yma neu’r opsiwn arall yw i’r telerau ac amodau gael eu rhagnodi gan y rheoliadau. Nid yw’r un angen yn codi yn achos adran 22(2)(a). Nid oes rhaid i’r rheoliadau ragnodi’r meini prawf ac felly nid oes angen darparu ar wahân ar gyfer y pŵer i’r rheoliadau hefyd ganiatáu i Weinidogion Cymru benderfynu ar gymhwystra; mae eisoes yn bodoli.

Mae adran 22(2)(c) yn datgan y caiff rheoliadau wneud darpariaeth “where the amount of any such grant or loan may vary to any extent according to a person’s circumstances, for determining, or enabling the determination of, the amount required or authorised to be paid to him”. Gellid dadlau bod “enabling the determination” yn awgrymu disgresiwn nad yw’n bresennol yn “for determining” ei hun. Fodd bynnag, yn y cyd-destun, y gwell dehongliad yw mai ystyr “enabling” yw casglu gwybodaeth i gefnogi’r penderfyniad. Er enghraifft, y pŵer i ofyn am wybodaeth ynghylch incwm aelwyd myfyriwr i benderfynu ar lefel grant prawf modd y mae’n cymhwyso i’w gael.

Fel y’i datgenir uchod, os y bwriad oedd ei gwneud yn ofynnol i’r holl ddarpariaeth ynghylch a yw person yn fyfyriwr cymwys gael ei nodi yn y rheoliadau, yna byddai adran 22(2)(a) yn defnyddio’r term “prescribed” a ddiffinnir. Nid yw’n gwneud hynny ac felly rhaid ei ddarllen fel pe bai’n caniatáu i’r rheoliadau gynnwys darpariaeth sy’n rhoi disgresiwn dros agwedd ar gymhwystra i Weinidogion Cymru, fel y’i gwneir yn rheoliadau 10(1) a 13(1).

 Fel y mae’r Pwyllgor yn ei nodi, mae Gweinidogion Cymru wedi eu rhwymo gan egwyddorion a gofynion cyfraith gyhoeddus wrth arfer unrhyw swyddogaeth. Felly, er nad yw’r disgresiwn yn rheoliadau 10(1) a 13(1) yn ddarostyngedig yn benodol i feini prawf neu gyfyngiadau, mae wedi ei rwymo gan gyfyngiadau caeth a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru, ymhlith pethau eraill, ystyried pob ffactor perthnasol, anwybyddu’r holl ffactorau amherthnasol a gweithredu’n rhesymol wrth arfer y swyddogaeth hon.

2.    Rheol Sefydlog 21.2(v): bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol.

Diffinnir y term “corff cyhoeddus” ym mharagraff 20 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau fel “awdurdod neu asiantaeth i’r wladwriaeth, boed yn genedlaethol, yn rhanbarthol neu’n lleol”. Ni ddefnyddir y term ond ym mharagraff 4 o Atodlen 3, sy’n nodi’r amgylchiadau y mae myfyriwr cymwys yn “myfyriwr cymwys annibynnol” odanynt. Mae’r categoreiddio hwn yn berthnasol i benderfynu incwm pwy sy’n cael ei ystyried wrth gyfrifo’r cymorth i fyfyrwyr sy’n dibynnu ar brawf modd y mae’r myfyriwr yn cymhwyso i’w gael. Os yw myfyriwr yn fyfyriwr cymwys annibynnol, yna incwm y myfyriwr a/neu incwm partner y myfyriwr a gaiff ei ystyried yn hytrach nag incwm rhieni’r myfyriwr.

Mae paragraff 4(1) o Atodlen 3 yn darparu bod myfyriwr cymwys yn fyfyriwr cymwys annibynnol “os yw un o’r achosion a ganlyn yn gymwys”. Achos 9 yw: “mae’r myfyriwr wedi cael ei gefnogi gan enillion y myfyriwr am unrhyw gyfnod o dair blynedd (neu gyfnodau sydd, gyda’i gilydd, yn dod i gyfanred o dair blynedd o leiaf) sy’n dod i ben cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs dynodedig”.

Mae paragraff 4(2) yn datgan: “at ddibenion Achos 9, mae myfyriwr cymwys yn cael ei drin fel pe bai’n cael ei gefnogi gan enillion y myfyriwr os, yn ystod y cyfnod neu’r cyfnodau y cyfeirir ato neu atynt yn Achos 9, yw un o’r seiliau a ganlyn yn gymwys”. Nodir Seiliau 1 i 3 isod.

Sail 1

Roedd y myfyriwr cymwys yn cymryd rhan mewn trefniadau ar gyfer hyfforddi personau di-waith o dan gynllun a weithredir, a noddir neu a gyllidir gan gorff cyhoeddus.

Sail 2

Roedd y myfyriwr cymwys yn cael budd-dal sy’n daladwy gan gorff cyhoeddus mewn cysylltiad â pherson sydd ar gael ar gyfer cyflogaeth ond sy’n ddi-waith.

Sail 3

Roedd y myfyriwr cymwys ar gael ar gyfer cyflogaeth ac wedi cydymffurfio ag unrhyw ofyniad cofrestru gan gorff cyhoeddus fel amod o hawlogaeth i gymryd rhan mewn trefniadau ar gyfer hyfforddiant neu i gael budd-daliadau.

Felly, nid yw’r term “corff cyhoeddus” ond yn berthnasol wrth benderfynu a yw person wedi bod yn cael budd-daliadau’r wladwriaeth sy’n gysylltiedig â chyflogaeth ac felly y dylid ei ystyried yn berson “annibynnol” at ddibenion y rheoladau. Mae i’r term gymhwysiad penodol a chyfyngedig yn y ddeddfwriaeth. Mae’r cyd-destun o ran canfod bod myfyriwr yn “annibynnol” (oddi wrth ei riant) yn golygu ei bod yn bwysig i’r holl amgylchiadau perthnasol gael eu dal. Felly, drafftiwyd y diffiniad o “corff cyhoeddus” yn fwriadol i fod yn ddigon eang i ddal unrhyw achos pan ganiateir ystyried bod myfyriwr yn cael budd-daliadau neu’n cymryd rhan mewn hyfforddiant a gyllidir gan asiantaeth neu awdurdod cenedlaethol i’r wladwriaeth. Caiff “cenedlaethol” yn y cyd-destun hwn olygu Cymru, y DU neu wlad arall. Hyd yn oed pe gellid dadlau bod darparwr y budd-dal yn dod o dan fwy nag un categori (cenedlaethol, rhanbarthol neu leol), caiff y budd-dal ei ddal. Opsiwn arall yn lle’r diffiniad fel y’i drafftiwyd fyddai cynnwys yn y rheoliadau restr gynhwysfawr o’r holl asiantaethau ac awdurdodau. O ystyried cwmpas eang y ddarpariaeth, byddai risg sylweddol y byddai unrhyw restr yn arwain at fylchau pan oedd asiantaethau neu awdurdodau yn cael eu creu, yn cael eu diddymu neu yn newid eu henw.

Trafodaeth y Pwyllgor

 



[1] Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998, adran 22(2)(a)

[2] Mae Llys Hawliau Dynol Ewrop wedi dyfarnu bod y ‘mathau eraill o statws’ a nodir yn Erthygl 14 yn cynnwys ‘oedran’, (Schwizgebel v Y Swistir (Rhif 25762/07).

[3] R (ar gais Tigere) (Apelydd) v yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau (Ymatebydd) [2015] UKSC 57